Beth wyt ti'n edrych am?
Rambert Death Trap
Dyddiad(au)
08 Ebr 2024 - 09 Ebr 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ydy Aishwarya wedi marw? Neu ydy hi wedi gadael ar ochr chwith y llwyfan?
Dawns gomedi meta, yn llawn tyrfedd bywyd a marwolaeth, hiwmor tywyll a gwreiddioldeb.
Mae Rambert a Ben Duke yn feistri theatr ddawns lle mae’r dawnsio yn eithriadol ac mae’r theatr yn cyflwyno straeon cymhellol.
Yn Cerebrus, dewch i mewn i fyd lle mae dawns yn fater o fywyd neu farwolaeth. Dyma fyfyriad ar fytholeg a marwoldeb, gyda ffasiwn angladd. Mae Goat wedi’i ysbrydoli gan gerddoriaeth ac ysbryd Nina Simone, gyda band byw ar y llwyfan yn perfformio ei chaneuon eiconig gan gynnwys Feelings, Feeling Good a Ain’t Got No/I Got, Life.
Yn dilyn eu taith Peaky Blinders lwyddiannus, dyma eich cyfle nesaf i weld dawnswyr campus a beiddgar Rambert yn y ddau ddarn byr yma a grëwyd iddyn nhw gan Ben Duke (o Lost Dog), sy’n adnabyddus am adrodd straeon sy’n datgelu’r absẃrd, y gwyllt a’r doniol.