Beth wyt ti'n edrych am?
Re-Take That
Dyddiad(au)
08 Awst 2024
Amseroedd
19:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Re-Take That yw noson barti fwyaf Take That, sy’n dod â chaneuon gorau band bechgyn mwya’r byd yn fyw – ar y llwyfan.
Bydd y bechgyn yn ôl am un noson arbennig yn unig!
Bydd y sioe yn cyflwyno pob un o ganeuon Take That a werthodd dros filiwn o gopïau, yn ogystal â chaneuon mwyaf Robbie Williams – gan gynnwys Greatest Day, Let Me Go, Shine, Never Forget, Let Me Entertain You, Rock DJ, Love My Life, Angels a mwy.
Wedi’i chreu gan gefnogwyr Take That, i gefnogwyr Take That – mae llawer o sylw wedi cael ei roi i allu cerddorol, gwisgoedd, dawnsdrefnau, crefft llwyfan a gwerthoedd cynhyrchu er mwyn rhoi’r noson orau posibl i gynulleidfaoedd.
Mae’n amser i Re-Take That eich diddanu chi mewn steil.
Peidiwch â cholli allan – mae’n amser i chi archebu eich seddi ar gyfer noson fythgofiadwy…