Profiad Nadolig y Bathdy Brenhinol 2026

Dyddiad(au)

28 Tach 2026 - 23 Rhag 2026

Lleoliad

Profiad y Bathdy Brenhinol, Llantrisant CF72 8YT

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Dewch i gwrdd â Siôn Corn a’i gorachod wrth i chi fentro trwy weithdy hudolus a darganfod straeon bythol am draddodiadau’r Nadolig sy’n dechrau gydag un darn arian.

Y Profiad: Atgofion Hudolus i Bara am Oes

Ar y daith hyfryd hon trwy weithdy Siôn Corn, cewch gwrdd â’i Brif Gynorthwywyr wrth iddynt ddod â straeon am ein traddodiadau Nadolig mwyaf poblogaidd yn fyw. Ewch am dro o amgylch y ffatri sy’n creu teganau i blant ledled y byd! Camwch i mewn i Groto Siôn Corn i fwynhau ysbaid unigryw i’r teulu cyfan gyda’r dyn mawr ei hun.