Neidio i'r prif gynnwys

Simply Barbra

Dyddiad(au)

09 Mai 2024

Amseroedd

20:30 - 22:30

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Wedi perfformio ledled y byd am dros 25 o flynyddoedd, pan mae Steven Brinberg yn perfformio’i sioe deyrnged i’r difa orau erioed, Barbra Streisand, mae e’n derbyn y math o adolygiadau disglair y byddai Barbra ei hun yn falch ohonynt!

Mae Steven Brinberg yn ysgrifennu ac yn serennu yn Simply Barbra, sioe sy’n cael ei diweddaru’n flynyddol wrth iddo deithio ar draws UDA yn ei pherfformio.

Drwy wahoddiad gan y diweddar Marvin Hamlisch fe berfformiodd gyda Cherddorfa Symffoni Dallas, Milwaukee, Buffalo a Norfolk, a gyda Barbara Cook a’r Gerddorfa Symffoni Genedlaethol yn Nghanolfan Kennedy. Fe berfformiodd Mr. Brinberg yng nghyngerdd pen-blwydd Stephen Sondheim yn Llyfrgell y Gyngres; yn Neuadd Carnegie gydag Uptown Express; ac ar Broadway yn fersiwn cyngerdd Funny Girl gyda Whoopi Goldberg.

Mae Simply Barbra wedi teithio Awstralia ac Asia ddwywaith, wedi mwynhau tri thymor llwyddiannus yng Ngŵyl Caeredin a chyfnodau yn y West End yn Theatrau Arts a Playhouse.

Enillydd dwy wobr MAC a Bistro