Beth wyt ti'n edrych am?
Smut Slam: Splish Splash
Dyddiad(au)
13 Gorff 2024
Amseroedd
20:30 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Yr haf yma, dewch i blymio gyda Smut Slam!
Mae’r sesiwn meic agored adrodd straeon yn seiliedig ar fywyd go iawn, chwant go iawn a rhyw go iawn yn ôl, gyda thema hafaidd sef “SPLISH SPLASH”. Pyllau nofio a thraethau, chwaraeon dŵr ac anturiaethau chwistrellu… rydyn ni eisiau clywed eich hanesion am hylifau synhwyrus.
Wedi’i greu a’i gyflwyno gan y pyrf proffesiynol Cameryn Moore, mae Slut Slam yn cynnwys straeon person cyntaf bywyd go iawn am ryw gan y gynulleidfa, hanesion gan feirniaid gwadd, a darlleniadau o ‘The F*ckbucket’, cynhwysydd cyfleus ar gyfer eich holl gwestiynau a chyfaddefiadau dienw!
Pwysig: Mae Smut Slam yn cwiar-gyfeillgar, cinc A fanila-gyfeillgar, tew-gyfeillgar, gweithwyr rhyw-gyfeillgar, gwyryf-gyfeillgar, amlgarwriaeth-gyfeillgar, rydyn ni’n gyfeillgar iawn iawn. Rydyn ni’n croesawu pobl sydd â phob math a lefel o brofiadau rhywiol. Darllenwch ein Cod Ymddygiad i gael manylion am sut i gymryd rhan!