Beth wyt ti'n edrych am?
Sophiaworks
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Sophiaworks yn ôl gyda chlec yn 2025! Mae’r noson tân gwyllt fwyaf yng Nghaerdydd yn dychwelyd am flwyddyn arall, gyda thocynnau bellach ar gael i’w prynu.
Ymunwch â ni yng Ngerddi Sophia, Caerdydd nos Fercher, 5 Tachwedd am noson gyffrous o gerddoriaeth fyw ac adloniant i’r teulu, gan gynnwys reidiau ffair, bwyd stryd a’r arddangosfa tân gwyllt drawiadol.
Dyma fydd y seithfed tro i’r stadiwm gynnal Sophiaworks.
Drysau 17:15, Tân Gwyllt 19:00 (am 30 munud), Cyrffyw 20:30