Beth wyt ti'n edrych am?
LLWYBR SHAUN THE SHEEP CANOLFAN DEWI SANT
Dyddiad(au)
01 Mai 2026 - 31 Mai 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ymunwch ag antur ryngweithiol gyffrous wrth i lwybr realiti estynedig Shaun the Sheep: Fun with the Flock gyrraedd canolfan Dewi Sant.
Mae’r llwybr realiti estynedig AM DDIM hwn yn llawn hwyl i’r teulu cyfan, 1-31 Mai, dilynwch y llwybr gan ddefnyddio’r ap pwrpasol ‘Fun with the Flock AR’ i ddod o hyd i naw marciwr sydd wedi’u cuddio ar draws canolfan Dewi Sant.
Ar hyd y ffordd, mwynhewch ddigon o gyfleoedd am hunlun, chwarae delwau defaid cerddorol, a helpu Bitzer i ddod o hyd i’r Praidd wrth i chi eu ticio oddi ar ei restr wirio. Cwblhewch y llwybr ac ennill sticer Shaun the Sheep unigryw – cofrodd berffaith o’ch antur wanwyn!
Yn ogystal, gallech gael cyfle i ennill Cerdyn Rhodd Dewi Sant gwerth £100 am gymryd rhan! 😍
I gael rhagor o fanylion ewch i: Llwybr Shaun the Sheep | Dewi Sant Caerdydd