Beth wyt ti'n edrych am?
Stephen Bailey | Tart
Dyddiad(au)
18 Hyd 2025
Amseroedd
20:00 - 22:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae’r ‘Fabulously Funny’ (The Guardian) Stephen Bailey, seren Live at the Apollo (BBC), Would I Lie To You? (BBC) a The Madame Blanc Mysteries (Channel 5) yn dychwelyd i’n llwyfan. Daw a’i sioe newydd sbon aton ni yn dilyn llwyddiant enfawr ei daith hynod lwyddiannus yn 2024.
Mae Stephen ‘A rising star’ (The Sun), wedi ymddangos ar bob sioe adloniant ysgafn ac wedi dod yn ail ar bob sioe gwis i enwogion. Ac yn ei sioe newydd fe fydd yn clebran am bob dim – o gynlluniau ei angladd i’w gariad digydnabod at Ben Shephard – ac os fydd angen mwy o gynnwys arno, fe wneith ddarllen gyfrinachau’r merched yn syth o’r grŵp WhatsApp.
Eofn, bywiog, a chwaethus – dyma’r cynhwysion perffaith ar gyfer gwneud Tart go iawn.
Artist cefnogol ar deithiau Katherine Ryan, Lucy Beaumont, Jason Manford a Micky Flanagan.