Neidio i'r prif gynnwys

Arch-fygiau - Y byd microbaidd ynom, arnom ac o'n cwmpas ni

Dyddiad(au)

07 Gorff 2025 - 03 Awst 2025

Lleoliad

St David's Dewi Sant, Heol y Bont, Caerdydd

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Siop dros dro addysgol wedi’i hanelu at blant ysgol, eu teuluoedd a’u hathrawon, a phawb sydd â diddordeb yn y byd microbaidd ynom, arnom ac o’n cwmpas ni. Rydym wedi troi uned fanwerthu wag yn un o ganolfannau siopa prysuraf y DU yn labordy microbioleg a gofod arddangos rhyngweithiol a phroffesiynol gyda gwybodaeth, gweithgareddau, gemau, arddangosfeydd, sgyrsiau byw ac arddangosfa gelf am wyddoniaeth, iechyd a heintiau – ac yn cynnwys ein sioe arswyd ein hunain!