Beth wyt ti'n edrych am?
Teithiau BBC Cymru Wales
Dyddiad(au)
12 Ion 2023 - 16 Meh 2023
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Camwch i ddyfodol darlledu yn stiwdios diweddaraf a mwyaf blaenllaw’r BBC, sydd wedi ennill gwobr aur Croeso Cymru am ansawdd y teithiau y tu ôl i’r llen.
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae effeithiau sain yn cael eu hychwanegu at eich hoff bodlediadau? Neu sut deimlad yw darllen y newyddion? Ymunwch â’n tywyswyr cyfeillgar ar daith y tu ôl i’r llenni yn BBC Cymru Wales.
Cewch ymweld â’n stiwdios newyddion, chwaraeon a radio newydd sbon, cael gwybod y cyfrinachau y tu ôl i greu rhaglenni’r BBC, a dilyn ôl troed rhai o wynebau adnabyddus Cymru.
Mae gwobr Aur Croeso Cymru yn cael ei dyfarnu i atyniadau sy’n sicrhau rhagoriaeth am eu cyfleusterau a’u gwasanaethau i gwsmeriaid.