Neidio i'r prif gynnwys

Teithiau Canolfan Mileniwm Cymru

Dyddiad(au)

05 Ebr 2024 - 30 Awst 2024

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Dewch am daith gefn llwyfan i gael cipolwg arbennig ar fyd y theatr tu ôl i’r llen.

Gan ddechrau yn ein Theatr Donald Gordon eiconig, cewch eich tywys drwy’r ardaloedd cefn llwyfan cudd, gan orffen gyda chyfle i dynnu lluniau o’r wal arysgrif enwog.

Ar ôl y daith, treuliwch amser yn mwynhau ein gofodau blaen y tŷ, ein pensaernïaeth a’n gwaith celf, a gwyliwch y byd yn mynd heibio o Ffwrnais, ein bar-caffi ar y llawr gwaelod. Bydd eich cinio blasus, coffi neu gacen ffres yn blasu cymaint yn well o wybod eich bod yn cael gostyngiad o 10% drwy ddangos eich tocyn taith.

Gallwch chi hefyd gael gostyngiad o 10% ar nwyddau Canolfan Mileniwm Cymru yn Siop drwy ddangos eich tocyn taith ar ddiwrnod eich ymweliad.

Rydyn ni’n falch iawn o fod yn hygyrch ac yn groesawgar i bawb. Os oes gennych chi unrhyw anghenion hygyrchedd penodol, cysylltwch â ni cyn y daith fel y gallwn ni wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.

Teithiau ar gael ar ddydd Gwener yn Gymraeg a Saesneg.