Beth wyt ti'n edrych am?
The Big Maths Game Show
Dyddiad(au)
20 Hyd 2024
Amseroedd
15:30 - 17:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mathemateg i bobl ifanc a’u teuluoedd – awr o berfformiad rhyngweithiol i blant 7+ oed a’u teuluoedd, gan ddefnyddio hiwmor a gemau cystadleuol i gyfleu llawenydd rhifau!
Caiff The Big Maths Gameshow ei dyfeisio, ei hysgrifennu a’i pherfformio gan y cyfathrebwr mathemateg clodwiw Kyle D Evans, sydd wedi teithio â sioeau mathemateg tebyg i’r teulu ar hyd a lled gwledydd Prydain, gan gynnwys lleoliadau fel Amgueddfa Wyddoniaeth Llundain a’r Sefydliad Brenhinol, a sawl dangosiad yng Ngŵyl Cyrion Caeredin (lle daeth BBC Breakfast i’w weld e hyd yn oed).
Bydd aelodau’r gynulleidfa yn mynd benben mewn pum rownd o gemau mathemategol, cyn pennu’r prif bencampwr. Mae hyd yn oed rownd lle gall plant ddangos eu pwerau datrys problemau drwy herio eu rhiant neu ofalwr!