Neidio i'r prif gynnwys

The Blindboy Live Podcast

Dyddiad(au)

27 Ebr 2024

Amseroedd

19:30 - 22:00

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Profwch The Blindboy Podcast YN FYW gyda’r polymath, awdur arobryn, sgrin-awdur, cyfansoddwr caneuon, cerddor, cynhyrchydd ac academydd Blindboy Boatclub.

Mae The Blindboy Podcast, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel “cultural phenomenon” gan The New York Times, yn bodlediad adrodd straeon arobryn yn nhraddodiad Gwyddelig y Seanchaí, sy’n plethu hanes, ffuglen, beirniadaeth ddiwylliannol a gwleidyddiaeth mewn ffurf ymlaciol mae’r creawdwr yn ei alw’n “gwtsh podlediad”.

Gan ddefnyddio ei wybodaeth a’i chwilfrydedd cronig i ddemocrateiddio pynciau fel celf, seicoleg, gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth a cherddoriaeth, yn y digwyddiadau BYW ac arbennig yma, bydd Blindboy yn cynnig cipolwg unigryw a doniol o faterion sy’n cael eu hystyried yn gymhleth.

The Blindboy Podcast yw chyfanswm creadigol profiad Blindboy, ac mae dros 60 miliwn o bobl dros y byd wedi gwrando. O Toronto i Lundain, Sydney i Galway, mae podlediadau byw Blindboy yn gwerthu allan yn gyson, ac mae’n cyfareddu ei gynulleidfaoedd mewn awyrgylch distaw a phersonol. Fel Blindboy ei hun, mae’r digwyddiadau yma yn unigryw.

Gyda gwestai arbennig ym mhob sioe, bydd y nosweithiau myfyriol yma yn ceisio ail-greu sgwrs breifat mewn man cyhoeddus drwy iaith theatr. Yn hoffus ac yn ddiddorol, bydd rhywbeth i bawb ei fwynhau yn bendant. Peidiwch â cholli allan!