The Carpenters Story

Dyddiad(au)

10 Meh 2026

Amseroedd

19:30

Lleoliad

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Taith gerddorol trwy yrfa ddisglair deuawd brawd a chwaer enwocaf y byd pop. Mae’r cynhyrchiad clodwiw hwn yn parhau i swyno cynulleidfaoedd ledled y DU gyda’i ddathliad ysblennydd o’r clasuron a wnaeth The Carpenters yn arwyr ym myd cerddoriaeth boblogaidd, gan werthu dros 100 miliwn o albymau a senglau. Mae’r sioe newydd sbon hon unwaith eto yn cynnwys doniau lleisiol rhagorol Claire Furley, gyda’r Cyfarwyddwr Cerdd Phil Aldridge yn arwain band The Carpenters Story wrth iddyn nhw ail-greu trefniadau cerddorfaol gwreiddiol Richard Carpenter. Mae’n cynnwys holl ganeuon poblogaidd y Carpenters gan gynnwys Close To You, Top of the World, We’ve Only Just Begun, Rainy Days & Mondays, Goodbye to Love a llawer mwy!