Beth wyt ti'n edrych am?
The Chicago Blues Brothers
Dyddiad(au)
04 Gorff 2026
Amseroedd
19:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae’r Chicago Blues Brothers yn ôl – ac maen nhw’n codi to’r Country Bunker!
Yn dathlu 45 mlynedd o etifeddiaeth chwedlonol y Blues Brothers, mae’r cyngerdd byw hwn yn cyflwyno noson egnïol o blws trydanol, clasuron gwlad, ac ychydig o bethau annisgwyl a bythgofiadwy ar hyd y ffordd.
O ganeuon eiconig y ffilmiau Blues Brothers i rai o’r anthemau gwlad gorau erioed, mae hwn yn gyfuniad cerddorol fel erioed o’r blaen – i gyd wedi’i gyflwyno gyda’r swanc digamsyniol hwnnw sydd gan y Chicago Blues Brothers, a thro ffres a fydd yn gwneud i’r dorf ganu, clapio, a dawnsio.
Fel y gwelwyd yn Theatrau Adelphi a Savoy yn West End Llundain, mae’r cynhyrchiad arobryn hwn yn gwarantu egni di-baid, perfformiad ysblennydd, a llawer o hwyl.
Felly cydiwch yn eich het, golchwch y llwch oddi ar eich sgidiau, a byddwch yn barod am swae fyrlymus ac egnïol sy’n saethu o’r llwyfan i’ch enaid. Beiddgar, eofn, a gwerth ei weld – dyma un noson na fyddwch chi’n ei hanghofio!