The Choir of Man

Dyddiad(au)

19 Mai 2026 - 23 Mai 2026

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Yn syth o’r West End, mae’r llwyddiant ysgubol a gafodd ei enwebu am Wobr Olivier bellach ar ei daith gyntaf ledled gwledydd Prydain.

Croeso i The Choir of Man, y dafarn orau yn y byd… Dewch yn barod i fwynhau’r cyffro!

Yn llawn caneuon gan artistiaid fel Queen, Luther Vandross, Sia, Paul Simon, Adele, Guns & Roses, Avicii a Katy Perry i enwi ond ychydig, dyma dafarn fel nunlle arall!

Grŵp hynod dalentog o offerynwyr anhygoel, crefftwyr geiriau o’r radd flaenaf a chantorion penigamp, mae’r cast yma o naw perfformiwr arbennig yn cyflwyno popeth… yn fyw!

Dathliad cadarnhaol o gymuned a chyfeillgarwch lle mae croeso i bawb; peidiwch â cholli’r noson dwymgalon yma o adloniant bywiog, sydd mor dda byddwch chi eisiau dod ‘nôl i’w gweld hi eto ac eto.