Beth wyt ti'n edrych am?
The Creepy Boys
Dyddiad(au)
09 Tach 2024
Amseroedd
20:30 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Dyma estyn gwahoddiad i chi: mae’r efeilliaid amddifad, The Creepy Boys, yn cynnal eu parti pen-blwydd yn 13 oed.
Bydd popeth yno. Gemau. Anrhegion. Satan o bosib. Cacen fwy na thebyg. Gan gyfuno caneuon secsi’r 2000au, defodau satanaidd, a Willam Dafoe, bydd y bechgyn bach horni yma’n gwneud unrhyw beth i sicrhau bod eu breuddwydion pen-blwydd yn cael eu gwireddu.
Dyma un parti pen-blwydd na ddylech ei fethu.
Mae’r efeilliaid yn recriwtio’r gynulleidfa i’w helpu i baratoi’r parti – gyda’r holl barch a chyswllt llygad y byddech chi’n ei ddisgwyl mewn parti pen-blwydd efeilliaid yn eu harddegau – cyn gyrru’r sioe oddi ar glogwyn comedi-arswyd. Dychmygwch gyfuniad o’r efeilliaid yn The Shining a My Super Sweet 16.
Drwy ddawnsio rhywiol, gemau parti, ac ail-greu eu genedigaethau eu hunain, mae’r Creepy Boys yn gwthio’r helynt i’r pwynt o aberthu gwaed, gan archwilio hiraeth mileniaid ar yr un pryd. Gan y cariadon-go-iawn-sydd-nawr-yn-efeilliaid-unfath, Sam Kruger (Enillydd – Gwobr Gomedi Just for Laughs 2019) ac S.E. Grummett (Enillydd – Theatr Gorau, Adelaide Fringe 2021), dyma gomedi ryfedd gyda blas o’r goruwchnaturiol.