Beth wyt ti'n edrych am?
The Drifters Girl
Dyddiad(au)
07 Mai 2024 - 11 Mai 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Yn syth o’r West End, mae The Drifters Girl yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru fel rhan o daith o’r DU ac Iwerddon.
Mae’r sioe lwyddiannus hon, a gafodd ei henwebu am wobr SIOE GERDD NEWYDD ORAU yng Ngwobrau Olivier 2022, yn gwneud i gynulleidfaoedd godi ar eu traed noson ar ôl noson gyda thrac sain sy’n llawn caneuon Drifters eiconig gan gynnwys Saturday Night At The Movies, Save The Last Dance For Me a Stand By Me.
Darganfyddwch stori ryfeddol The Drifters a’r gwirionedd am y fenyw tu ôl i’w llwyddiant. O uchafbwyntiau’r caneuon llwyddiannus i gyfnodau anodd o frwydrau cyfreithiol a thrasiedïau personol, Faye Treadwell oedd rheolwr The Drifters a oedd yn gwrthod rhoi’r gorau i gredu yn y grŵp roedd hi’n dwli arno.
Deg ar hugain o flynyddoedd a channoedd o ganeuon llwyddiannus yn ddiweddarach, does dim amheuaeth mai Faye Treadwell oedd The Drifters Girl.