Beth wyt ti'n edrych am?
The Emu War: A New Musical
Dyddiad(au)
20 Gorff 2024 - 21 Gorff 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Twtiwch eich plu yn barod i brofi adar yn dawnsio, tiwns bachog, a digon o chwerthin! Wedi’i hysbrydoli gan ddigwyddiadau go iawn Rhyfel Mawr yr Emiwiaid yn 1932, mae ein sioe gerdd gomedi yn dilyn ymdrechion ofer llywodraeth Awstralia i frwydro yn erbyn emiwiaid direidus…
Dyma’r tro cyntaf yn Cabaret i’r cast, sy’n byw ym Mryste a’u hanner yn dod o Gymru. Shwmae! Mae The Emu War eisoes wedi’i enwi gan Playbill fel un o’u dewisiadau rhyngwladol gorau ar gyfer Gŵyl Cyrion Caeredin – os na all hynny ac emiwiaid yn dawnsio eich denu chi draw, wn i ddim beth wnaiff.