The Magic of Motown

Dyddiad(au)

07 Meh 2026

Amseroedd

19:30

Lleoliad

Theatr Newydd, Plas y Parc, Caerdydd CF10 3LN

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Wedi’i weld gan filiynau o bobl, mae The Magic of Motown yn ôl gyda’i Daith 20 Mlwyddiant! Dyw hi ddim yn syndod mai’r sioe hon yw un o’r llwyddiannau mwyaf erioed yn hanes y theatr ym Mhrydain. Dewch i ddathlu a bloeddio canu ym mharti Motown mwyaf y flwyddyn. Byddwch yn barod ar gyfer yr holl ganeuon poblogaidd, gwisgoedd llachar, dawnsio disglair a dawn gerddorol eithriadol yn y cyngerdd byw syfrdanol hwn. Byddwch yn mynd yn loco i lawr yn Acapulco, wrth i ni fynd â chi ar hyd llwybrau’r cof gyda holl glasuron Motown gan artistiaid fel: Marvin Gaye, Diana Ross, Stevie Wonder, The Temptations, The Supremes, The Four Tops, Martha Reeves, The Jackson 5, Smokey Robinson, a llawer iawn mwy. Dathlwch sŵn cenhedlaeth gyda noson arbennig iawn The Magic of Motown!