The Pearl Revue: Sioe Adloniant Gomedi

Dyddiad(au)

22 Tach 2025

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Shwmae bobl, rydyn ni’n ôl!

Mae ‘Quill & Pearl’ yn dod â noson arall o gomedi, adloniant a bwrlesg i chi.

Cynhelir eich strafagansa mis Tachwedd gan y storïwr profiadol Stage Door Johnny. Bydd yn gwneud i chi wenu, chwerthin a rhoi eich holl sylw iddo fe wrth eich diddanu gyda phopeth o Shirley Bassey i Guns N’ Roses!

Yn ymuno â Johnny mae cast llawn sêr, sy’n cynnig coctel penigamp o gomedi, bwrlesg, syrcas, vaudeville, a chân. Felly daliwch eich offer chwerthin, gadewch eich pryderon wrth y drws, a pharatowch i gael eich diddanu yn ‘The Pearl Revue’.

Dim ond i’r rhai sydd dros 18 oed a bach yn ddrygionus!

  • Stage Door Johnny (Gwesteiwr) – Ellyll fflyrtaidd, telynegol
  • REIx (Bwrlesg) – ‘Rei’ polymorffig o olau haul
  • Sandy Sure (Vaudeville) – Merch sioe bryfoclyd, gwirion a swreal
  • Darryl J Carrington (Syrcas) – digrifwr jyglo o’r radd flaenaf
  • Mrs No Overall (Glanhawr?!) – Nain Ryfeddol Oed-ddeniadol
  • Oola Pearl (Neo-bwrlesg) – Clown graenus, carismatig

Cynhyrchwyd gan Quill & Pearl Presents