Beth wyt ti'n edrych am?
Gŵyl Nadolig (Spiegeltent) | Seiniau’r Nadolig Corws WNO
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Camwch i mewn i’r spiegeltent hudolus yng Ngerddi Sophia ac ymuno â Chorws byd enwog Opera Cenedlaethol Cymru am noson sydd wirioneddol yn cyfleu ysbryd y Nadolig.
Yn y lleoliadd agos yma, lle mae pob sedd yn teimlo fel y rhesflaen, cewch eich swyno gan raglen Nadoligaidd o glasuron oesol, ffefrynnau Cymreig, a chorysau opera bendigedig, oll dan gyfarwyddyd Meistr Corws y WNO, Frederick Brown.
Cewch brofi pŵer cyffrous corws Hallelujah! Handel, yr angerdd o adegau enwog opera fel La traviata a Carmen, a harddwch Fantasia on Christmas Carols Vaughan Williams. Ochr yn ochr â’r trysorau hyn, bydd Corws WNO yn dathlu traddodiad corawl cyfoethog Cymru gyda charolau traddodiadol felHwi angerdd Mair (Suai’r Gwynt), Tua Bethlem Dref ac Ar Gyfer Heddiw’r Bore.
P’un a ydych yn hoff o opera, carolau, neu’n awyddus i brofi ysbryd y Nadolig, mae’r cyngerdd calonogol hwn yn addo noson wirioneddol fythgofiadwy o gerddoriaeth a llawenydd.
Ymunwch â ni am gyngerddsy’n cyfleu gwir seiniau’r Nadolig.