Beth wyt ti'n edrych am?
The Ultimate Rugby Quiz with Stewart Wright
Dyddiad(au)
07 Tach 2024
Amseroedd
19:30 - 22:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ydych chi erioed wedi gweld ‘Theatr Rygbi Stand-yp’? Na, do’n i ddim yn meddwl y byddech chi.
Mae wedi bod yn syfrdanu’r byd rygbi’n dawel bach, ac rydyn ni mor falch o fod yn cynnal dangosiad cyntaf y sioe yng Nghymru yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae’n ‘blydi gwych’ meddai Ugo Monye.
Caiff y noson ei chreu a’i pherfformio gan yr actor comedi o Brydain Stewart Wright (Doc Martin, Smack the Pony, Bridget Jones’ Diary), sydd â’i stori rygbi ei hunan ac sy’n dod â chymeriadau ac eiliadau o gemau rygbi rhyngwladol yn fyw ar ffurf cwis.
Mae Benoit Kirby, dyfarnwr Ffrengig gwefreiddiol y noson, hefyd yn ein swyno gyda’i ystod ryfeddol o ddoniau – gan gynnwys jyglo, cerddoriaeth pibgod, canu, a’r cerdyn melyn achlysurol.
Yn serennu yn y noson unigryw yma mae Cliff Morgan, Jim Telfer, Rassie Erasmus, Bill McLaren a mwy.