Beth wyt ti'n edrych am?
The Wizard of Oz
Dyddiad(au)
23 Gorff 2024 - 27 Gorff 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Yn uniongyrchol o’r London Palladium, daw cynhyrchiad newydd syfrdanol o un o sioeau cerdd mwyaf poblogaidd y byd i Gaerdydd.
Gyda’r sgôr gwreiddiol eiconig o’r ffilm MGM a enillodd wobrau Oscar gan gynnwys Over The Rainbow, Follow The Yellow Brick Road ac We’re Off To See The Wizard a chaneuon ychwanegol gan Andrew Lloyd Webber a Tim Rice, bydd y cynhyrchiad ysblennydd yma o THE WIZARD OF OZ yn brofiad hudol i’r teulu cyfan.
Ymunwch â Dorothy, Toto a ffrindiau ar antur fythgofiadwy i lawr ffordd y brics melyn i wlad Oz.
Does nunlle fel Canolfan Mileniwm Cymru ym mis Gorffennaf 2024.