Beth wyt ti'n edrych am?
Tiger Bay a’r Dociau: 1880au – 1950au
Dyddiad(au)
08 Maw 2023 - 31 Maw 2025
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Dewch i weld arddangosfa newydd sy’n dathlu hanes a chymunedau Tiger Bay a’r dociau.
Ar y cyd â’r Heritage and Cultural Exchange (HCE), mae tair arddangosfa newydd wedi’i llunio yn y Pierhead i roi cipolwg ar fywyd yn Tiger Bay a’r dociau o’r 1880au i’r 1950au.
Dewiswyd rhai o hoff luniau y HCE o’r casgliad sydd ganddynt, yn ogystal ag archifau lleol eraill, i ddangos yr ardal yn y gorffennol a’r holl newidiadau ers hynny.