Neidio i'r prif gynnwys

Opera | Il Trittico

Dyddiad(au)

29 Med 2024 - 05 Hyd 2024

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Cenfigen, hudoliaeth, cariad, colled, aberth, ffars, twyll a llofruddiaeth – y cyfan mewn un noson.

Mae Il trittico, triptych Puccini o operâu un act, yn cynnwys amrywiaeth o emosiynau mawr. Mae Il tabarro (Y Clogyn) yn craffu ar briodas anhapus gyda chanlyniadau milain. Yn Suor Angelica (Y Chwaer Angelica) rydym yn dilyn aberth lleian a’i hiraeth am ei theulu ar ôl iddi gael ei hanfon i’r lleiandy i edifarhau am ei phechodau. Mae Gianni Schicchi yn llawn twyll a thrachwant wrth i deulu ddadlau am ewyllys coll.

Mae’r wledd operatig tri chwrs hon yn cynnwys cerddoriaeth wych, megis yr aria boblogaidd O mio babbino caro ac elfennau sy’n ategu ac yn cyferbynnu. Mae’r cynhyrchiad yn cael ei gyfarwyddo gan y cyfarwyddwr rhyngwladol enwog, Syr David McVicar (La traviata gan WNO). Bydd Il trittico yn cynnig cyfle prin i fwynhau’r tair opera mewn un noson fel y bwriadodd Puccini.