Beth wyt ti'n edrych am?
Ynys Echni – Ymweliadau Dydd
Dyddiad(au)
13 Maw 2026 - 25 Hyd 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Dydy hi ddim yng Nghaerdydd fel y cyfryw ond bum milltir oddi ar yr arfordir; mae Ynys Echni drawiadol mewn byd arall ac mae yno gyfoeth o hanes a bywyd gwyllt. Cewch eich synnu gan faint sydd i’w ddarganfod…
Mae ymweliad dydd byr ag Ynys Echni yn cynnig hyd at dair awr ar yr Ynys a chyfle unigryw i weld cadwraeth, bywyd gwyllt ac adeiladau hanesyddol Ynys Echni.
Gellir trefnu i hwylio i’r Ynys am ddiwrnod gyda’r gweithredwyr canlynol.
Bay Island Voyages – Amseroedd ac Archebion – 073 9347 0476
Mae ffi glanio o £10.00 i oedolion ac i blant yn daladwy i’r warden wrth gyrraedd yr ynys. (taliadau arian parod yn unig)
Cysylltwch â’r gweithredwyr cychod i holi am brisiau teithiau cwch.