Neidio i'r prif gynnwys

Mae Parc a Gardd Goed Bute yn ardal helaeth o dir parc aeddfed hawdd cyrraedd ato o ganol y ddinas. Gydag Afon Taf, Gerddi Sophia, Caeau Pontcanna a Chastell Caerdydd ar ei hyd

ORIAU AGOR

Llun - Sul

07:30 - 30 munud cyn y machlud

Parc Bute yw “calon werdd” Caerdydd, yn llawn diddordeb hanesyddol a bywyd gwyllt. Mae’n ymestyn dros 56 hectar (sy’n cyfateb i 75 cae pêl-droed); hwn yw un o’r parciau trefol mwyaf yng Nghymru ac mae’n cynnwys cymysgedd eang o dirwedd hanesyddol, coetir trefol, caeau chwaraeon, gardd goed, nodweddion garddwriaethol a choridor afon. Ychydig iawn o ddinasoedd sydd ag ardal wedd helaeth yn eu canol.

CYMERWCH OLWG AR Y MAP RHYNGWEITHIOL

 

Hanes Parc Bute

Mae Parc Bute wedi’i nodi ar Gofrestr Tirweddau Cadw fel tirwedd hanesyddol rhestredig gradd 1.

Cafodd rhannau o’r tir sydd nawr ym Mharc Bute eu gosod fel gardd bleser breifat ar gyfer y Teulu Bute gan Andrew Pettigrew rhwng 1873 a 1903. Hwn yw’r unig enghraifft adnabyddus o gynllun wedi ei ddylunio gan y garddwr mawr ei barch hwn o’r 19eg ganrif.

Ym 1947, cyflwynwyd y parc gan bumed Ardalydd Bute i bobl Caerdydd, ac mae bellach yn cael ei reoli ar ran y bobl gan y Cyngor.

Mae’r parc yn cynnwys cyfoeth o nodweddion hanesyddol sy’n dyddio’n ôl i oes y Rhufeiniaid a’r Canol Oesoedd. Mae’r parc ei hun yn cynnwys dros 2000 o goed, gan gynnwys esiamplau o goed mwyaf o’u math yn y DU.

Yn ogystal â choed, mae’r parc yn gartref i ddigonedd o fywyd gwyllt a gall ymwelwyr weld y tair rhywogaeth cnocell y coed, sgrech y coed, y dringwr bach, y dyfrgi, yr eog neidiol, yr aderyn hirgoes, y crëyr glas, y fursen a llu o wahanol ffyngau wrth ymlwybro trwy’r parc.

Edrychwch ar yr amserlen ryngweithiol

Bute Park
Canolfan Addysg

Mewn safle diymhongar y tu ôl i wal ardd a wnaed â brics wedi’u hadfer, adeiladwyd y Ganolfan Addysg i fod yn gynaliadwy ac mae’n cynnwys to gwellt, paneli solar ac wyneb cladin pren.
Mae Canolfan Addysg Parc Bute ar agor i’r cyhoedd bob dydd (o ganol dydd tan 3pm) ac mae’n lleoliad lle gall teuluoedd ddysgu am dreftadaeth a bywyd gwyllt cyfoethog y parc. Mae Llwybr Archwilio Coetir a map o Barc Bute hefyd ar gael yma i’ch helpu i archwilio nodweddion gorau’r parc.

Mae Canolfan Addysg Parc Bute hefyd ar gael i’w llogi gan gwmnïau a grwpiau preifat. Mae’r Cyngor hefyd yn ei defnyddio fel canolfan hyfforddiant ar gyfer rhaglen brentisiaid y parc ac fel lleoliad i raglen wirfoddolwyr y parc.

Mae ein Swyddog Addysg yn cynnig ymweliadau addysgol â’r parc i ysgolion a grwpiau ieuenctid a chymunedol. Mae WiFi am ddim a thoiledau (gan gynnwys rhai i’r anabl a chyfleusterau newid cewynnau) hefyd ar gael ar y safle.

Digwyddiadau yn y Parc

Cynhelir llawer o ddigwyddiadau diwylliannol mawr yn y parc drwy’r flwyddyn gan fanteisio ar leoliad a hygyrchedd ardderchog y parc. Mae digwyddiadau’n amrywio o achlysuron bach gyda grwpiau cymunedol, rasys hwyl a theithiau cerdded er elusen i ddigwyddiadau mawr fel y Sioe Arddwriaethol Frenhinol.

Ceir nifer o leoedd digwyddiadau gwahanol i’w llogi, gyda phob un yn addas i wahanol fathau a meintiau digwyddiad. Ewch i wefan Parc Bute i gael gwybodaeth am drefnu digwyddiad.

PARCIO

Y meysydd parcio agosaf yw: Maes Parcio Stablau'r Castell CF10 3ER Maes Parcio Heol y Gogledd CF10 3DU Maes Parcio Gerddi Sophia CF11 9LJ (wrth ymyl Gorsaf Bws National Express)

AR FWS

Gallwch gyrraedd y Parc yn hawdd ar fws. Bws Rhif 6 yw'r bws sy'n cael ei ddefnyddio amlaf gan dwristiaid, gan fod un bob 12 munud ac mae'n teithio rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd. Mae'r Rhif 6 yn eich gollwng y tu allan i Westy'r Hilton a Heol y Porth, y ddau 2 funud ar droed o fynedfa Parc Bute.

AR Y TREN

Mae Parc Bute o fewn pellter cerdded i orsaf Cathays, gorsaf Heol y Frenhines, a’r orsaf ganolog.

Contact

Ffôn

+44 (0) 29 2087 2730

E-bost

butepark@cardiff.gov.uk

Cyfeiriad

Canol y ddinas Caerdydd CF10 3RB Wales