Neidio i'r prif gynnwys

GWARCHODFA GWLYPTIR BAE CAERDYDD

Mae Gwarchodfa Gwlyptir Bae Caerdydd yn cwmpasu tuag 8 hectar o hen forfa heli ac mae’r safle’n cynnal amrywiaeth gyfoethog o blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys anifeiliaid di-asgwrn cefn, pysgod a bywyd gwyllt arall.
Wedi’i lleoli ar lannau gogleddol Bae Caerdydd, rhwng Gwesty Dewi Sant ac Afon Taf, mae’r warchodfa’n hawdd ei chyrraedd ar hyd rhodfa graean a rhodfa estyll, ac mae ganddi fan gwylio sy’n ymestyn allan dros y dŵr, gan roi’r lleoliad perffaith i wylio adar.
Beth am lawrlwytho’r Chwiliwr Bywyd Gwyllt Gwlyptiroedd i blant cyn i chi fynd.
Lleoliad: Rhodfa Windsor, Caerdydd CF10 5BZ

CYFARWYDDIADAU