Mae’r Arena ar agor i’r cyhoedd gael sglefrio yno trwy’r flwyddyn – gallwch sglefrio iâ ym mhob tywydd, nid y Gaeaf yn unig!
Mae’r rhain yn sesiynau cyhoeddus ar gyfer pawb, gan gynnwys myfyrwyr, hen sglefrwyr a phlant bach, ac mae hefyd sesiynau gyda’r nos i’r rheiny sy’n hoffi ymlacio ar ôl diwrnod prysur yn y gwaith neu’r ysgol.
Mae sglefrio iâ yn ddiwrnod allan gwych i’r teulu, i ffrindiau neu hyd yn oed yn ddêt perffaith, lle gallwch gael hwyl ar yr iâ. Cofiwch, yr iâ yw’r canolbwynt a bydd pawb yn syrthio! Ar ôl sglefrio, beth am alw draw i’r Grazing Shed i fwynhau pryd o fwyd byrgyrs blasus? Y ffordd berffaith i ymlacio ar ôl sglefrio.
O fis Medi i fis Mawrth, mae Arena Vindico yn gartref i Dîm Hoci Iâ Cynghrair Elît, Cardiff Devils, sydd wedi ennill y gynghrair ac wedi dod yn ail dros y 5 tymor diwethaf. Fel arfer mae’r tîm yn chwarae o leiaf un gêm gartref yr wythnos. Mae hoci iâ yn gamp sy’n addas i’r teulu mewn atmosffer cyflym, cyffrous a gwefreiddiol i bawb sy’n mynd yno i’w gweld nhw wrthi!
Ynghyd â bod yn hwb sglefrio iâ yn ne Cymru, mae Arena Vindico yn cynnal digwyddiadau amrywiol o rwydweithiau busnes i gynadleddau, ac rydym yn falch iawn o gynnig gwasanaeth arlwyo i anghenion penodol cwsmeriaid. Gyda pharcio am ddim ar y safle, a chan ein bod dim ond tafliad carreg o gysylltiadau bws a thrên, dyma’r lle perffaith ar gyfer eich digwyddiad.
Ymhlith y digwyddiadau eraill a gynhaliwyd yn yr Arena mae Pêl-rwyd Cymru, CheerSport Cymru a digwyddiadau Bocsio a Cage Warriors. Ar gyfer digwyddiadau llai, mae’r ardal Prif Far yn lleoliad perffaith ar gyfer partïon priodas a phen-blwydd, digwyddiadau corfforaethol, cyfarfodydd tîm a chynadleddau.