Mae Café Rouge yn dŷ bwyta Ffrengig bywiog ychydig yn wahanol i’r traddodiadol, lle gallwch fwynhau tafell o fywyd fel pe baech ym Mharis bron.

GWEFAN

Opening hours

Llun - Iau

09:00 - 10:00

Gwe - Sad

09:00 - 23:00

Sul

10:00 - 21:30

Cafe Rouge Cafe Rouge Cafe Rouge Cafe Rouge

Bydd Café Rouge yn dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed y flwyddyn nesaf, wedi iddo gael ei sefydlu yn Llundain yn 1989 gan ddau oedd yn dwlu ar fwyd ac oedd am ail-greu bwyd Ffrengig go iawn mewn lleoliad tebyg mi fistro o Baris.

Rydym yn parhau i gynnig clasuron fel Steak Frites, Poulet Breton, Moules a Boeuf Bourgignon, yn ogystal â croques, salad, bagetiau a gwin Ffrengig. Mae ein bwyd a’n cogyddion wrth galon y cyfan a wnawn, ac rydym yn defnyddio cynhwysion ffres gwych, dulliau coginio Ffrengig traddodiadol a ryseitiau Rouge clasurol drwy’r dydd bob dydd.

Mae ein bwydlen frecwast – sy’n cynnwys toes neu frecwast llawn – ar gael tan ganol dydd, ac mae ein Bwydlen A La Carte a’n Bwydlen Osod Dymhorol ar gael o ganol dydd. mae gennym hefyd fwydlen wych i’r plant mewn dau faint ar gyfer plant bach a mawr, o 2 i 12 oed.

Mae ein bwyty yng Nghaerdydd ar lawr cyntaf canolfan siopa Dewi Sant, ac mae ar agor ar gyfer brecwast, cinio a swper bob dydd.  Mae ystafell breifat ar gael lan llofft at gyfer cyfarfodydd, partion a digwyddiadau – galwch heibio neu ffoniwch ni i gael manylion; does dim tâl i logi’r ystafell, ac mae croeso i grwpiau unrhyw adeg o’r dydd.

Does dim wastad angen cadw lle o flaen llaw, ond awgrymir eich bod yn gwneud hynny ar ddiwrnodau digwyddiadau yn Stadiwm Principality neu Arena Motorpoint.

Mae’n dda gennym ddweud bod gennym Dystysgrif Ragoriaeth Trip Advisor.