Mae MADE (gwneuthurwyr, artistiaid a dylunwyr) yn gwmni buddiant cymunedol, wedi’i ymgorffori i hwyluso cyfleoedd ar gyfer artistiaid newydd a sefydledig gan gynnwys perfformwyr byw, artistiaid gweledol, dylunwyr a gwneuthurwyr o’r ardal drwy gynnig man i gyflwyno, rhannu a chynnal eu gwaith parhaus yn ariannol.
Ar hyn o bryd, mae MADE yn prydlesu adeilad yn y Rhath, sy’n cynnwys 3 oriel, ardal siop a chaffi a gweithdy lan lofft. Mae’n cynnig gofod preswyl posibl a safle ar gyfer dosbarthiadau a chyfarfodydd wythnosol.
41 Lochaber St,
Caerdydd CF24 3LS