Dyma’r lle perffaith i giniawa, nôl byrbryd neu ymlacio dros ddiod wrth fwynhau’r olygfa dros ddyfroedd Bae Caerdydd.
Gyda bwyd o bedwar ban byd – o hufen iâ Cymreig i swshi Siapan, o bizzas ffres a phasta i fwydydd cain Ffrainc – mae glannau Caerdydd yn rhywle sydd â rhywbeth at ddant pawb. Mae hefyd siopau coffi gwych, siopau cludfwyd wrth fynd a llawer mwy.
Dewch i gael hwyl yn The Glee Club, lleoliad comedi cyntaf a gorau Caerdydd!
Mae boutiques hyfryd gyda chacennau cri traddodiadol Cymreig, anrhegion, esgidiau a mân bethau – Tecso Express i nôl y pethau sylfaenol.
Ar ben hynny mae Salon Ken Picton, busnes gwallt a harddwch moethus o fri rhyngwladol, ynghyd â gwasanaethau eraill.
Mewn lleoliad llawn hanes, mae pensaernïaeth unigryw Cei’r Fôr-Forwyn wedi’i hysbrydoli gan y lleoliad morol a’r dreftadaeth gyfoethog – gyda decin, tyrau, balconïau, terasau, colofnresi a phontydd.
Mae rhywbeth yn digwydd byth a beunydd, gyda rhaglen ragorol o ddigwyddiadau ac adloniant ac mae Cei’r Fôr-Forwyn yng nghanol atyniadau eraill Bae Caerdydd, gan gynnwys Techniquest, Roald Dahl Plass a Chanolfan Mileniwm Cymru.