Neidio i'r prif gynnwys

Mae Canolfan Gynadledda Rhyngwladol Cymru yn newydd a chyffrous, ar ôl cael ysbrydoliaeth o ganolfannau confensiwn gorau'r byd.

ICC wales 2

Mae canolfan gynadledda newydd Cymru a agorwyd yn ddiweddar yn cynnig cyfle cyffrous i drefnwyr a chynrychiolwyr. Mewn lleoliad cyfleus ar yr M4 yn Ne Cymru mae’r ganolfan yn hawdd teithio iddi mewn car ac yn llai na 2 awr ar y trên o orsaf Paddington Llundain.

Bydd y ganolfan gynadledda yn cynnig 26,000 metr sgwâr o ofod digwyddiadau ar gyfer hyd at 5,000 o gynrychiolwyr, gydag awditoriwm rhenciog 1,500 sedd a neuadd arddangos 4,000 metr sgwâr heb unrhyw bileri ynddi.

Wedi’i dylunio’n unigryw i gydweddu â natur, mae pob un o’r 12 o ystafelloedd cyfarfod yn llawn o olau dydd naturiol. Mae’r lleoliad wedi’i amgylchynu â choetiroedd ac mae pont yn ei gysylltu â Choetir Coldra a thiroedd Gwesty’r Celtic Manor sy’n enwog ledled y byd.

MWY O WYBODAETH

Prif Nodweddion

Awditoriwm gyda seddi rhenciog ar gyfer 1,500 gyda 762 ar y lefel uchaf a 738 ar y lefel isaf.

Gofod 4,000 troedfedd sgwâr heb bileri, yn hyblyg ac  yn gallu cael ei rannu’n chwe adran

15 o ystafelloedd cyfarfod hyblyg

26,000 troedfedd sgwâr o ofod llawr

Hyd at 5000 o gynadleddwyr ar yr un pryd

Mynedfa atriwm hael gyda 2,500 troedfedd sgwâr o dir awyr agored

Golau dydd naturiol ym mhob ystafell gyfarfod ac yn y brif neuadd

Mannau rhwydweithio ar bob lefel

Cyfleusterau pwrpasol ar gyfer cleientiaid a thimau cynhyrchu

Llwytho uniongyrchol ar gyfer cerbydau cynyrchiadau ac arddangosfeydd

Ffôn

016 3341 0250

E-bost

boxoffice@iccwales.com

Cyfeiriad

Coldra Woods, Newport, NP18 1HQ