Mewn lleoliad delfrydol yng nghanol Caerdydd gyferbyn ag Arena Motorpoint a Chanolfan Siopa Dewi Sant, mae Gwesty Citrus o fewn pellter cerdded i Ardal y Caffis, atyniadau twristiaeth lleol a busnesau.
Mae’r gwesty gwych hwn yng nghanol dinas Caerdydd yn berffaith i’r rhai sy’n chwilio am lety rhad ychydig yn wahanol – gwerth da am arian ac yn ffasiynol ar yr un pryd. Mae gan yr holl ystafelloedd gwely sgrîn deledu wastad, defnydd o fand eang a Wi-Fi, cyfleusterau te a choffi am ddim, gwelyau anferth, golygfeydd o’r ddinas a gallech gael eich ystafell erbyn 2.00pm os ydych yn ei chadw’n uniongyrchol â’r gwesty.
Mae’r dderbynfa ar agor 24 awr ynghyd â bar sy’n gwerthu byrbrydau a lluniaeth ysgafn. Codir tâl am barcio a chaiff llefydd eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin. Nid yw’r gwesty’n cynnig system aerdymheru, ond mae ffan ar gael ym mhob ystafell wely ac mae rhai ychwanegol ar gael ar gais. A chroesawir anifeiliaid anwes!
Ffôn
029 2063 6363
E-bost
enquiry@citrushotelcardiff.co.uk
Cyfeiriad
Rhodfa Bute, Caerdydd CF10 2FE