GWESTY CLAYTON

Gwesty’r Clayton yw un o westai mwyaf canolog y ddinas, ger rhai o olygfeydd mwyaf eiconig Caerdydd, siopau a hybiau busnes

Gwesty Clayton yw’r gwesty 4* mwyaf a mwyaf newydd yng Nghaerdydd, wedi’i leoli yng nghanol y ddinas.

Mae’r gwesty wedi’i leoli ger Gorsaf Caerdydd Canolog a dim ond ychydig funudau ar droed o Stadiwm Principality.

Mae Gwesty Clayton Caerdydd yn cynnwys 216 o ystafelloedd aerdymherus yn ogsytal â bar, bwyty a 7 ystafell gyfarfod â golygfeydd gwych o’r ddinas ac offer AV.

Mae cyfleusterau ychwanegol yn cynnwys band eang am ddim ym mhob un o’r ystafelloedd gwesteion, WiFi am ddim drwy’r gwesty, ystafell ffitrwydd, gwasanaeth ystafell 24 awr, a theras awyr agored.