Neidio i'r prif gynnwys

Mae The Cocktail Club Caerdydd nawr ar agor yn swyddogol. Gallwch ddisgwyl coctêls gwych, cerddoriaeth ar gyfer parti, a gweithwyr bar o’r radd flaenaf yn ogystal ag awr hapus heb ei hail o amser agor tan 8pm, 7 diwrnod yr wythnos ac mae pob coctel wedi eu cynnwys yn y cynnig.

Yn ogystal â hyn, bydd The Cocktail Club Caerdydd yn lansio Brecinio Diddiwedd gwyllt o’r 00au ddiwedd Gorffennaf, gan weini diwrnod hiraethus llawn atgofion anhygoel a direidi dwl. Mae’r tocynnau’n cynnwys prosecco diddiwedd a choctels, adloniant gwyllt, gemau bingo cerddorol a brecinio blasus iawn. Hefyd, gemau, gwobrau, a hyd yn oed mwy o syrpreisys.

Yfwyr coctels, dewch ynghyd oherwydd mi allwch nawr gadw lle trwy wefan The Cocktail Club i sicrhau lle i chi’ch hun yn lleoliad newydd mwya deniadol Caerdydd. Croeso i’r parti.

Lleoliad: 75 Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1FA