Neidio i'r prif gynnwys

Mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn gyfleuster antur gwefreiddiol, ar alw; cartref yr unig gwrs rafftio dŵr gwyn yn Ne Cymru.

ORIAU AGOR:

Llun - Maw

09:00 - 17:00

Mer

09:00 - 20:00

Iau - Sul

09:00 - 17:00

Gwyliau Banc

10:00 - 16:00

Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

Mae Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd (DGRhC) yn gyfleuster antur ar alw cyffrous yng nghanol y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Dewch i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau hamdden ar gyfer ceiswyr antur o bob oed. 

Yn ogystal â chanolfan ragoriaeth ar gyfer hyfforddi, rydym hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi o’n Hysgol Badlo i wobrau Dug Caeredin.  Mae gan ganolfan DGRhC bob math o weithgareddau i’w cynnig, felly beth bynnag fo’r gweithgaredd dŵr rydych chi’n chwilio amdano, does dim dwywaith bydd e ar gael yno!

Gyda hyd at chwech o bobl mewn rafft, mae rafftio dŵr gwyn yn un o’r gweithgareddau mwyaf cymdeithasol sydd ar gael. Mae’n addas i ddechreuwyr a selogion dŵr gwyn profiadol, mae’r sesiynau dwy awr gyda hyfforddiant sy’n cynnig hwyl llawn antur o’r dechrau i’r diwedd. Ar nosweithiau Mercher a boreau dydd Sul, mae lefel a chyflymder y dŵr yn cael ei ostwng fel ei fod yn addas ar gyfer plant iau (oed 6+) fel y gall yr holl deulu hwylio’r dyfroedd gwyllt gyda’i gilydd.

Neu beth am roi cynnig ar Indoor Wave?  Mae’r peiriant syrffio wedi’i efelychu yn creu’r wefr o gorff-fyrddio trwy gydol y flwyddyn mewn lleoliad cyfleus yng nghanol y ddinas. Os nad ydych yn hoff iawn o ddŵr, Air Trail bydd yn bendant o wneud i’r adrenalin bwmpio. Gwisgwch eich gwregys a chroesi’r strwythur pren rhaffau dyrchafedig uwchben y cwrs dŵr gwyn a rhoi cynnig ar sialensiau’r Burma Bridge, Monkey Swing, Barrel Crawl a’r Weiren Sip.

CYRRAEDD DŴR GWYN RHYNGWLADOL CAERDYDD

Yn y Car

Dilynwch yr M4 i gyffordd 33. Dilynwch yr A4232 gan ddefnyddio arwyddion brown ar gyfer Bae Caerdydd a'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Sat-nav: CF11 0SY Sat Nav: CF11 0SY

Parcio

Mae yna barcio ar gael ar y safle.

Ar y Fws

Dal gwasanaeth Bws Caerdydd 13 neu 9. Maen nhw'n rhedeg yn aml o ganol y ddinas a Bae Caerdydd.

Ar y Trên

Yr orsaf reilffordd agosaf yw Cogan. Daliwch trên y Barri neu Ben-y-Bont ar Ogwr o Gaerdydd Canolog i Cogan. Ar ôl gadael yr orsaf yna cerddwch ar draws Pont y Werin i Bentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd.

CYSYLLTWCH Â DŴR GWYN RHYNGWLADOL CAERDYDD

Ffôn

029 2082 9970

E-bost

info@ciww.com

Cyfeiriad

Watkiss Way, Cardiff Bay, CF11 0SY