Dyma’r eglwys hynaf yng nghanol y ddinas ac, ar wahân i rannau o Gastell Caerdydd, dyma’r adeilad hynaf yng Nghaerdydd sydd mewn defnydd o hyd. Mae’r eglwys ger marchnad dan do canol y ddinas, a dyma’r adeilad canoloesol hynaf sy’n weddill yn y ddinas ar ôl Castell Caerdydd, yn dyddio o’r 12fed ganrif. Ar ddiwedd oes Fictoria, roedd ganddi chwech o chwaer-eglwysi hefyd yn gwasanaethu ardal boblog canol y ddinas.
Mae Sant Ioan yn croesawu tua mil o ymwelwyr yr wythnos ac yn cynnal nifer o ddathliadau gwahanol ar gyfer sefydliadau’r ddinas, elusennau ac unigolion. Mae castell canoloesol Caerdydd, stadiwm cenedlaethol Cymru, prif ganolfan siopa’r ddinas a sefydliadau cenedlaethol a dinesig wedi’u lleoli o fewn y plwyf. Mae’n fan addoli i ymwelwyr a gweithwyr canol y ddinas ac yn lleoliad ar gyfer cyngherddau, arddangosfeydd celf a darlithoedd.
CYRRAEDD EGLWYS PLWYF SANT IOAN
CYSYLLTWCH Â EGLWYS PLWYF SANT IOAN
Ffôn
029 2039 5231
Cyfeiriad
Stryd yr Eglwys, Caerdydd CF10 3ED