Neidio i'r prif gynnwys

ESQUIRES CAERDYDD

Wedi'i leoli yng nghanol Bae Caerdydd, mae Esquires yn falch o gynnig coffi Masnach Deg a 100% organig, prydau brecwast a brecinio blasus, ac amrywiaeth o fwydydd deli a theisennau crwst.

Yn Esquires, rydyn ni’n rhoi pobl yn gyntaf – rydym yn cynnig coffi organig a Masnach Deg yn unig sy’n sicrhau bod ffermwyr coffi yn cael eu talu’n deg, sydd yn ei dro yn helpu i gefnogi a gwarchod y cymunedau ffermio sy’n cynhyrchu’r coffi rydyn ni’n hoff ohono cymaint! Rydyn ni hefyd yn defnyddio cwpanau coffi y gellir eu compostio’n llawn a 100% ailgylchadwy i adlewyrchu ein hymrwymiad i’r blaned.

Os nad coffi yw’ch ffefryn chi, rydyn ni hefyd yn cynnig rhestr o winoedd wedi’u dethol yn ofalus a’n dewislen o goctels nodweddiadol sy’n cael ei datblygu a’i diweddaru’n gyson gan ein tîm bar ymroddedig – mae ein Martini Chai Espresso yn un i wir eich cynhesu!

Gan ddechrau’n fach yn Ngholumbia Brydeinig yn 1993, mae Esquires bellach yn deulu o siopau ledled y byd sy’n eiddo i’r rhai o’u cymunedau lleol ac sy’n cael eu gweithredu ganddynt, ac sydd wedi dod yn arweinydd a gydnabyddir yn fyd-eang yn y diwydiant coffi moesegol.

CYFARWYDDIADAU

Esquires Coffee, Cei’r Fôr-forwyn, Bae Caerdydd, CF10 5BZ

CYSWLLT

E-bost

cardiffbay@esquirescoffee.co.uk