Pizzeria bach annibynnol yw Ffwrnes sydd ar falconi Marchnad Ganolog Caerdydd.

Opening hours

Maw - Sad

11:30 - 16:00

Mae Ffwrnes wedi bod yn gweini pizzas gwych wedi’u coginio mewn ffwrn sy’n llosgi pren ers 2018. Yn eiddo i ‘Fois y Pizza’ (fel y’u gwelwyd ar y BBC a Bois y Pizza ar S4C), mae Ffwrnes yn cyfuno’r cynnyrch gorau o Gymru â thechnegau gwneud pizzas Eidalaidd.

Mae’r profiad bwyta ym Marchnad Fictoraidd hanesyddol Caerdydd yn berffaith i’r rhai sy’n ceisio osgoi nodweddion bwyty confensiynol. Mae holl staff Ffwrnes yn gallu siarad Cymraeg i ryw lefel, felly beth am roi ‘shwmae’ wrth archebu i wneud eich profiad yn arbennig iawn.

Mae Ffwrnes Pizza hefyd yn cynnig arlwyo tu allan. Cysylltwch â ni os hoffech i’n fan pizzas ymweld â’ch digwyddiad neu’ch gweithle.