Neidio i'r prif gynnwys

FOUR POINTS FLEX BY SHERATON CAERDYDD

Gwesty modern yng nghanol y ddinas yw Four Points Flex gan Sheraton Caerdydd, gyda 95 o ystafelloedd gwely steilus.

Mae Four Points Flex gan Sheraton Caerdydd yn enghraifft ddisglair o’u gweledigaeth ar gyfer gwestai canol y ddinas. Gyda 95 o ystafelloedd cryno steilus, mae’n cynnig gwerth gwych am arian ac mae ond un funud i ffwrdd o orsaf drenau Caerdydd Canolog ar droed. Mae’n un o’r gwestai mwyaf canolog yng Nghaerdydd, gyda’r cyfan sydd gan y brifddinas fodern hon i’w gynnig ar ei stepen drws. Mae bar a bwyty yn y gwesty: cewch ddewis bwyta yn ein hystafell fwyta gyda golygfa wych dros y ddinas neu ymlacio yn y bar lolfa ar soffas cyfforddus wrth y tân coed.

Mae Gwesty Four Points Flex y drws nesaf i Orsaf Drenau Caerdydd Canolog.