GWYBODAETH
Maes Awyr Caerdydd yw maes awyr cenedlaethol Cymru sy’n croesawu mwy na 1.66 miliwn o deithwyr y flwyddyn, gyda mwy na 50 o lwybrau uniongyrchol ar gael a thros 900 o gyrchfannau eraill yn hygyrch drwy gysylltiadau mewn hybiau meysydd awyr, gan gynnwys Amsterdam Schiphol, Dulyn a Paris Charles de Gaulle.
CYRRAEDD O FAES AWYR CAERDYDD
Mae trenau’n rhedeg rhwng y Maes Awyr a Gorsaf Caerdydd Canolog bob awr, gyda bws gwennol yn cysylltu gorsaf y Maes Awyr (gorsaf y Rhŵs) â’r terminws yn y maes awyr.
Mae Flightlink Wales yn cynnig gwasanaethau gwennol maes awyr dibynadwy, naill ai yn wasanaeth unigol neu gerbyd a rennir, gan fynd â chi’n uniongyrchol o’r neuadd lanio i’ch gwesty. Mae’r gwasanaeth yn gweithredu’n bennaf o Faes Awyr Caerdydd ond mae hefyd yn cysylltu Meysydd Awyr Bryste, Heathrow a Gatwick â Chaerdydd.
Dysgwch fwy yn cardiff-airport.com neu dilynwch @Cardiff_Airport ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf.
CYFRAWYDDIADDAU
MEWN CAR
Gallwch gyrraedd Maes Awyr Caerdydd yn hawdd mewn car drwy ddilyn yr A4232, yr A4050 a'r A4226 o Gaerdydd. O'r M4 tua'r gorllewin, cymerwch C33 i ymuno â'r A4232. Mae gan Faes Awyr Caerdydd fan gollwng, a pharcio cyfnod byr a chyfnod hir.
AR DRÊN
Mae trenau'n rhedeg bob awr o orsaf Caerdydd Canolog a gorsaf Pen-y-bont ar Ogwr i orsaf Maes Awyr Caerdydd Y Rhws. Mae gwasanaeth bws gwennol am ddim ar gael i deithwyr sydd â thocyn trên dilys, sy'n cysylltu â phob trên i gludo teithwyr ar y daith fer i neuadd groeso’r maes awyr. Mae cyfleusterau llawn ar gael i deithwyr sydd angen cymorth arbennig.
AR Y BWS
Mae gwasanaeth Adventure Travel 303/304 yn rhedeg bob awr ac yn cysylltu'r rhai sy'n teithio i Faes Awyr Caerdydd, o Gaerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr.
Ffôn
+44 (0)1446 711111
E-bost
infodesk@cwl.aero
Cyfeiriad
Maes Awyr Caerdydd, Y Rhws, Y Barri, CF62 3BD