Neidio i'r prif gynnwys

NCP STRYD ADAM CAERDYDD

Parciwch eich car ym maes parcio Stryd Adam Caerdydd a chewch fwynhau bwrlwm canol y ddinas mewn dim o dro.

Mae Utilita Arena Caerdydd o fewn tafliad carreg, ac mae Neuadd Dewi Sant, Stadiwm Principality a Chastell Caerdydd hefyd yn agos. Mae’n hawdd cyrraedd Gorsaf Caerdydd Canolog ar droed o’r maes parcio, lle mae trenau rheolaidd yn rhedeg i Fae Caerdydd.

PARCIO AM BRIS GOSTYNGOL GYDAG NCP A CHROESO CAERDYDD

GALLWCH BARCIO AM 7 AWR AM £6.99

Mwynhewch hyd at 7 awr o barcio am £6.99 trwy’r ap NCP.

Lawrlwythwch yr ap iPhone neu Android i’ch dyfais symudol a chofrestru ar gyfer cyfrif (neu fewngofnodi), yna dan eich proffil, ychwanegwch y cod hyrwyddol ‘VISITCARDIFF’. Pan fyddwch yn mynd i dalu am barcio drwy’r ap (Park Now), dylai’r gost am yr opsiwn 7 awr fod yn £6.99.

PARCIO GYDA'R NOS AM £4

Parciwch rhwng 6pm a 3am am ddim ond £4 drwy’r ap NCP.

Lawrlwythwch yr ap iPhone neu Android i’ch dyfais symudol a chofrestru ar gyfer cyfrif (neu fewngofnodi), yna dan eich proffil, ychwanegwch y cod hyrwyddol ‘VISITCARDIFF’. Pan fyddwch yn mynd i dalu am barcio drwy’r ap (Park Now), dylech weld y cynnig perthnasol fel opsiwn pris.

DIRECTIONS

Adam Street, Cardiff, CF24 2FH