Neidio i'r prif gynnwys

MAINLINE COACHES

Mae Mainline Coaches yn weithredwr coetsys teuluol mawr wedi'i leoli ger Caerdydd sy’n cynnig mynediad hawdd at holl brif borthladdoedd a meysydd awyr y DU. Maent yn cynnig coestsys dosbarth corfforaethol, gweithredol a safonol ar gyfer teithiau ledled y DU ac Ewrop.

Mae Mainline Coach Travel yn darparu cludiant coets i bob math o grŵp sy’n ymweld â’r DU, gan gynnwys ysgolion, corau, grwpiau eglwysig, teuluoedd mawr, grwpiau corfforaethol a Chlybiau Rotari i enwi ond ychydig.

Eu nod yw darparu’r gwasanaeth gorau posibl, o’r safon uchaf.  Yn ystod y cyfnod hwn sy’n heriol yn ariannol, maent yn deall pa mor bwysig yw gwerth am arian, gwasanaeth cwsmeriaid gwych a safonau ansawdd – ac yn Mainline Coaches maent yn ymfalchïo yn y safonau uchel hyn bob amser.

Pam defnyddio Mainline Coaches?

  • Dros 40 mlynedd o brofiad yn y farchnad llogi bysiau a theithiau grŵp, yn cynnig gwasanaeth o safon.
  • Busnes teuluol sydd bellach yn berchen i’r drydedd genhedlaeth
  • Maent yn sicrhau eich diogelwch llwyr gyda’r cerbydau gweithredol mwyaf modern sy’n berchen iddynt ac sy’n cael eu cynnal a’u cadw’n ofalus ganddynt
  • Maent yn cynnig gyrwyr profiadol, proffesiynol mewn gwisg unffurf, a rhagoriaeth o ran gwasanaeth cwsmeriaid (i greu argraff barhaol)
  • Fflyd o goetsys gweithredol mewn gwahanol feintiau o 16 sedd i 57 sedd
  • Canolfan cyswllt brys 24 awr er tawelwch meddwl
  • Aelodau o * Cydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr (CPT) * Croeso Cymru
  • Gweithredwr coetsys swyddogol i ICC Cymru, Casnewydd, Gwesty’r Celtic Manor, Timau Hoci a Phêl-rwyd Cymru
  • Darparwr trafnidiaeth i restr helaeth o gleientiaid corfforaethol a busnes ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd

CONTACT

Ffôn

01443 670095

E-bost

info@mainlinecoaches.co.uk