Overview
Mae Gwesty a Sba 4 seren Mercure Holland House Caerdydd yn westy modern yng nghanol prifddinas fywiog Cymru, ac mae ganddo 165 o ystafelloedd gwely. Mae holl atyniadau Caerdydd o fewn pellter cerdded o’r gwesty, megis Stadiwm y Principality eiconig a Chastell Caerdydd. Mae ei 15 ystafell cyfarfodydd ag offer pwrpasol yn medru darparu ar gyfer 700 o westeion, sy’n golygu mai’r Mercure yw’r gwesty â’r cyfleusterau cynadledda mwyaf yng Nghaerdydd. Yn ogystal, mae gan sba’r gwesty 13 ystafell driniaeth, ystafell fwyta ac ymlacio preifat ar gyfer y sba a chyfleusterau hamdden helaeth (campfa, pwll nofio 18m, Jacuzzi, sawna ac ystafell stêm).