Mae maes parcio Heol y Brodyr Llwydion Caerdydd reit yng nghanol y ddinas – taith gerdded fer i safleoedd pwysig fel Castell Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Bute, y Theatr Newydd a Neuadd y Ddinas Caerdydd. Fe welwch nifer o fusnesau yn yr ardal hefyd – y maes parcio delfrydol i gymudwyr.
COD ARBENNIG
Oeddech chi’n gwybod y gallwch gael 7 awr o barcio yma am £6.99 neu £4.00 o 18:00-03:00 gan ddefnyddio’r cod cynilo VISITCARDIFF.
Nid yw gostyngiad ParkPass VISITCARDIFF ar gael ar ddiwrnodau digwyddiadau mawr.
Sylwer: rhaid archebu lle gan ddefnyddio Ap ParkPass yr NCP. Gweler y cyfarwyddiadau isod ar sut i’w lawrlwytho.
SUT YDW I’N CAEL GOSTYNGIAD DRWY’R AP?
- Lawrlwythwch Ap ParkPass yr NCP
Dolen Ap Apple / Dolen Ap Android
- Cofrestrwch fanylion a dull talu
- Cyflwynwch y COD CYNILO:VISITCARDIFF
- Dewiswch un o’r meysydd parcio NCP Caerdydd
- PWYSWCH y botwm “Cynhyrchu cod QR”
- Defnyddiwch y cod QR digidol hwn i fynd i mewn a gadael– sganiwch ef yn uniongyrchol o’r ap (ar gyfer safleoedd heb rwystr, archebwch eich parcio drwy’r Ap NCP ar eich ffôn)
*NI DDYLAI defnyddwyr gymryd tocyn arferol o’r peiriant pan fyddant yn dod i mewn. Bydd angen y cod QR arnynt o’r ap wrth adael (wedi’i storio’n awtomatig ar yr ap).
DIRECTIONS
Greyfriars, Greyfriars Road, Cardiff, CF10 3AD