Neidio i'r prif gynnwys

Grym, drama ac emosiwn amrwd opera mewn perfformiadau wedi eu nodweddu gan ymchwil digyfaddawd am ansawdd artistig.

ORIAU AGOR

Llun - Gwe

09:30 - 17:30

Sad - Sul

Closed

Welsh National Opera Welsh National Opera Welsh National Opera Welsh National Opera

Sefydlwyd Opera Cenedlaethol Cymru ym 1943 gan grŵp o bobl o bob rhan o dde Cymru gan gynnwys glowyr, athrawon a meddygon a oedd am ffurfio cwmni opera a oedd yn gweddu i enw da cyfoethog Cymru fel ‘gwlad y gân’. Cynhaliwyd yr ymarferion cyntaf un uwchben garej yn Llandaf, cyn y perfformiad cyntaf wedi’i lwyfannu’n llawn yn Theatr Tywysog Cymru, Caerdydd ar 15 Ebrill 1946.

Mae OCC yn angerddol am opera ac eisiau rhannu’r grym, y ddrama a’r emosiwn amrwd i gynulleidfa mor eang â phosibl mewn perfformiadau sy’n cyfuno ymdeimlad o antur â’r ansawdd artistig uchaf posibl. Fel cwmni cenedlaethol sydd â statws rhyngwladol, rydyn ni’n eistedd wrth galon creu cerddoriaeth yng Nghymru ac yn chwarae rhan werthfawr yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu yn Lloegr. Rydym yn gwneud hyn gyda pherfformiadau arobryn o opera a chyngherddau wedi’u llwyfannu’n llawn sy’n teithio ledled Cymru, Lloegr ac yn Rhyngwladol gan eu cadw’n hygyrch trwy brisiau tocynnau fforddiadwy. Y tu hwnt i’r theatr rydym yn cysylltu â phobl trwy ein gwaith cymunedol ac addysg a phrosiectau digidol.

Ffôn

029 2063 5000

E-bost

hello@wno.org.uk

Cyfeiriad

Wales Millennium Centre, Bute Place, Cardiff, CF10 5AL