Rydym yn elusen seiclo, a’n cenhadaeth yw gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu mwynhau manteision seiclo (a’r rhyddid i grwydro’n dinas hardd a’r cyffiniau)! Mae gennym y fflyd fwyaf o feiciau safonol a hygyrch yng Nghymru (ac un o’r rhai mwyaf yn y DU), gan gynnwys beiciau gwthio cyffredin, beiciau plant, E-Feiciau, treiciau a beiciau ochr yn ochr. Mae ein prif safle ym Mhontcanna, ger canol y ddinas, ac mae ar agor trwy gydol y flwyddyn. Mae wrth ymyl Llwybr Taf a pharciau bendigedig Caeau Llandaf, Parc Bute a Thiroedd y Castell. Mae ein hail safle ym Mae Caerdydd, sy’n cynnig gwasanaeth llogi tymhorol yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf. Mae’r lleoliad perffaith i grwydro’r Bae a’r Morglawdd, yn ogystal â Phenarth a Bro Morgannwg sydd gerllaw.
Man gwyrdd hardd Parc Carafannau Caerdydd yw lleoliad ein safle ym Mhontcanna. Mae caffi hygyrch lle gall pawb (gan gynnwys eu cŵn!) ymlacio a mwynhau te, coffi a diodydd oer yn ogystal ag ystod o gacennau wedi’u gwneud yn lleol a chawliau cartref, brechdanau, lapiau a brechdanau crasu. Mae tŷ bach hygyrch ar y safle hefyd.
Rhaid archebu ymlaen llaw i logi o’n safle ym Mhontcanna. Mae croeso i bobl alw heibio ein safle ym Mae Caerdydd.