Neidio i'r prif gynnwys

Mae Pieminister yn gweini eu pasteiod enwog gyda llwyth o ychwanegiadau ar y plât, a phwdinau mawr. Fyddwch chi fyth yn gadael isho bwyd.

ORIAU AGOR

Llun - Sad

11:30 - 22:00

Sul

11:30 - 21:00

Pieminister Pieminister Pieminister Pieminister

Wedi’i leoli yng nghanol y ddinas ar St Mary Street ger Stadiwm y Principality, Pieminister yw’r lle i fynd am basteiod arobryn yng Nghaerdydd.

Wrth galon y ddinas ar Heol  Eglwys Fair ger Stadiwm y Principality, Pieminister yw’r lle i fynd yng Nghaerdydd i gael pasteiod sydd wedi ennill gwobrau. Gydag amrywiaeth eang o basteiod i ddewis ohonynt (mae ganddynt 15 o rai gwahanol flasau, gan gynnwys clasurol, di-glwten, llysieuol a fegan!) mae ganddynt bopeth i bawb. Ac i fynd gyda’r pastai? Mae nhw wedi meddwl am hynny hefyd! O’r tatws stwnsh, pys a grefi traddodiadol, i sglodion, caws macaroni a cholslô , fyddwch chi byth eisie bwyd.

Heb fod yn Pieminister o’r blaen? Rhowch gynnig ar y ‘Mothership’ chwedlonol. Wedi’i greu gyntaf ar gyfer caeau Gŵyl Glastonbury ‘nôl yn 2004, mae’r ‘Mothership’ yn cyfuno eich hoff bastai ar sylfaen o datws menynaidd gyda phys, sialotsyn crimp, caws Cheddar a grefi. Dyma’r ffordd orau i flasu Pieminister am y tro cyntaf ac mae ar gael bellach i feganiaid hefyd.

Ond peidiwch ag anghofio’r pwdin – rhowch gynnig ar eu hufen iâ meddal blasus, o siocled i ffrwythau ffres – mae’r cyfan ganddynt.  Pa un ai ydych yn gweithio, yn siopa neu’n ymweld â’r brifddinas eiconig, mae’n ginio cyflym blasus iawn neu’n ffordd i sbwylio’ch hun gyda’r nos. Pam na wnewch chi noson ohoni? Mae cerddoriaeth wych i fynd gyda bar llawn o ddiodydd, yn gwrw crefft, seidrau a choctels awr-hapus.

Yn chwilio am rywbeth i wneud am y penwythnos? Cofiwch archebu ar gyfer eu Cinio Dydd Sul Gorau: pasteiod a chig rhost, yn un wledd enfawr. Neu beth am frecwast canol bore – y Pieminister Bottomless Brunch. Difethwch eich hun gyda Phrosecco, Mimosas, Bloody Marys neu Aperol Spritz diddiwedd gyda’r pasteiod-canol-bore gorau. Penwythnos perffaith.

Ffôn

029 2000 4155

E-bost

cardiff@pieminister.co.uk

Cyfeiriad

Pieminister, 35 St Mary Street, Cardiff CF10 1AD